Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol rhyngoch chi, y Defnyddiwr, a Janglerins, perchennog y wefan hon.
Ystyrir bod eich cytundeb i gydymffurfio â'r Telerau ac Amodau hyn a chael eich rhwymo ganddynt yn digwydd ar eich defnydd cyntaf o'r wefan. Os nad ydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau hyn, dylech roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan ar unwaith. Ni fwriedir i unrhyw ran o'r Wefan hon fod yn gynnig cytundebol sy'n gallu cael ei dderbyn. Mae eich archeb yn cynnwys cynnig cytundebol, ac ystyrir bod ein derbyniad o'r cynnig hwnnw yn digwydd pan fyddwn yn anfon e-bost atoch yn nodi bod eich archeb wedi'i chyflawni a'i bod ar ei ffordd i chi. Efallai y byddwn ni’n diweddaru'r Telerau ac Amodau Masnach hyn (ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) o bryd i'w gilydd a byddwn yn hysbysu am newidiadau o'r fath trwy eu huwchlwytho ar ein gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan www.janglerins.co.uk rydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau Masnach hyn.
CYRCHU EIN GWEFAN
Caniateir mynediad i'n gwefan dros dro, ac rydym ni’n cadw'r hawl i dynnu'r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu drwy’r wefan yn ôl neu eu diwygio heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol os nad yw'r wefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn ni’n cyfyngu mynediad i rai rhannau o'r safle, neu'r wefan gyfan, am resymau cynnal a chadw.
EIDDO DEALLUSOL
Yn ddarostyngedig i'r isod, mae'r holl gynnwys sydd wedi'i gynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ein dyluniadau gemwaith, testun, graffeg, logos, eiconau a delweddau yn eiddo i Janglerins neu drydydd partïon perthnasol.. Byddwn yn mynd ar drywydd unrhyw drosedd yn gryf. Trwy barhau i ddefnyddio ein gwefan rydych chi’n cydnabod bod deunydd o'r fath yn cael ei ddiogelu gan y Deyrnas Unedig a chyfreithiau eiddo deallusol rhyngwladol perthnasol a chyfreithiau eraill. Ni chewch atgynhyrchu, copïo, dosbarthu, storio, neu mewn unrhyw fodd arall ailddefnyddio deunydd o'n gwefan oni bai eich bod yn cael caniatâd ysgrifenedig penodol i wneud hynny gan Janglerins.
HAWLFREINTIAU A PHERCHNOGAETH
Janglerins sy'n berchen ar y wefan hon a'i chynnwys. Gwaherddir unrhyw ddefnydd o'r wefan neu ei chynnwys gan gynnwys copïo a storio delweddau heb ganiatâd ymlaen llaw at ddibenion masnachol. Ni chewch addasu, dileu, dosbarthu, na phostio unrhyw beth ar y wefan hon at unrhyw ddiben.
NWYDDAU, PRISIO AC ARGAELEDD
Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod yr holl gynrychioliadau a disgrifiadau o'r Nwyddau sydd ar gael gan Janglerins yn cyfateb i'r Nwyddau gwirioneddol, nid Janglerins sy'n gyfrifol am unrhyw amrywiadau o'r disgrifiadau hyn. Mae'r holl eitemau wedi'u gwneud â llaw i archeb; mae unrhyw afreoleidd-dra yn ganlyniad anochel i broses gwneud â llaw. Mae'r holl wybodaeth brisio ar y wefan yn gywir ar adeg mynd ar-lein. Mae Janglerins yn cadw'r hawl i newid prisiau a newid neu ddileu unrhyw gynigion arbennig o bryd i'w gilydd ac yn ôl yr angen.
AMODAU GWERTHU A DISGOWNT
Ni ellir dyddio archebion sy’n cael eu gwneud yn ystod ein cyfnod arwerthiant yn ôl neu ymlaen.
POLISI TALU
Rydym ni angen taliad llawn cyn i archebion a wneir o'r wefan hon gael eu cludo. Rydym ni’n derbyn taliad trwy PayPal, MasterCard, Maestro, Visa neu Visa Debyd. Cesglir yr holl drafodion cardiau yn ddiogel trwy wefan ddiogel PayPal. Sylwch nad oes angen i chi gael cyfrif PayPal i fwrw ymlaen â'r taliad. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd PayPal yma: https://www.paypal.com/uk/webapps/mpp/paypal-and-your-data
CLUDO – TIR MAWR Y DU YN UNIG
-
- Mae Janglerins yn anelu at anfon yr holl nwyddau a brynwyd o'r wefan hon o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich archeb. Nid yw hyn yn cynnwys gwyliau banc na phenwythnosau. Gall cludo gymryd mwy o amser yn ystod amseroedd prysurach o'r flwyddyn. Peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os ydych chi’n ansicr o unrhyw beth.
- Mae pob parsel yn cael ei gludo gan ddefnyddio dewis cludwyr o ddewis y defnyddiwr; 'Dosbarthiad Dosbarth Cyntaf y Post Brenhinol wedi'i recordio' neu 'Dosbarthiad Arbennig y Post Brenhinol'.
- Oherwydd natur gwneud â llaw pob darn, yn anffodus ni all Janglerins gynnig gwasanaeth dosbarthu diwrnod nesaf. Fodd bynnag, os ydych chi angen eitem ar gyfer dyddiad penodol, cysylltwch â ni ar janglerins@mail.com cyn archebu, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiwallu eich anghenion.
- Ni all janglerins anfon archebion i Flychau Post.
POLISI CANSLO
-
- Os ydych chi angen canslo eich archeb rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig cyn i'ch pryniant gael ei anfon. Cysylltwch â ni ar janglerins@mail.com..
- Os yw eich pryniant wedi'i anfon neu os ydych chi eisoes wedi derbyn eich archeb, gweler y Polisi Dychwelyd isod am fwy o wybodaeth.
- Ni ellir canslo eitemau wedi'u comisiynu neu eu personoli unwaith y bydd y gwaith wedi dechrau.
DANFONIADAU HWYR / DDIM YN CYRRAEDD
Os yw eich danfoniad yn hwyr neu os nad yw'n cyrraedd o fewn yr amserlen danfon a ddyfynnwyd, cysylltwch â ni ar janglerins@mail.com. Mewn achos lle nad yw eitem yn cyrraedd, dim ond ar ôl i 10 diwrnod gwaith fynd heibio y gallwn ganiatáu eitem newydd/ad-daliad. Dyma'r raddfa amser i'r Post Brenhinol ystyried fod parsel wedi cael ei golli. Mae "diwrnodau gwaith" y Post Brenhinol yn golygu unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl gyhoeddus.
POLISI DYCHWELYD
-
- Rydym ni’n rhoi llawer iawn o ofal a sylw ym mhob eitem yr ydym yn eu gwneud â llaw ac yn gobeithio y byddwch chi wrth eich bodd gyda'ch gemwaith, ond os, am unrhyw reswm yr hoffech chi ddychwelyd eich nwyddau, bydd angen i chi gysylltu â ni o fewn 14 diwrnod o ddyddiad eich archeb i'w drefnu. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â ni ar janglerins@mail.com.
- Os nad yw'r nwyddau'n ffitio'n gywir, er enghraifft, rydych chi angen cadwyn fyrrach neu hirach, neu os oes angen i chi newid maint y fodrwy, cysylltwch â ni ar janglerins@mail.com. oherwydd gellir gwneud addasiadau. Efallai y bydd ffioedd am bostio.
- Rhaid i nwyddau fod yn eu cyflwr gwreiddiol, yn eu pecyn gwreiddiol, a heb eu defnyddio. Mae'n ôl ein disgresiwn ni p’un a ydym yn penderfynu ad-daliad am eitemau nad ydynt mewn cyflwr o'r fath.
- Cyfrifoldeb y cwsmer yw'r nwyddau nes iddynt gyrraedd ein cyfeiriad cofrestredig. Dylech sicrhau eich bod yn pacio'ch nwyddau yn ddigonol i atal difrod wrth eu cludo. Rydym ni’n cadw'r hawl i wrthod dychwelyd nwyddau sydd wedi'u difrodi oherwydd na chawsant eu hailbecynnu'n briodol.
- Ni ellir ad-dalu costau postio, a chyfrifoldeb y cwsmer yw talu am gostau postio yn ôl. Dylech sicrhau tystiolaeth o bostio, gan y bydd ad-daliadau ar gael ar eitemau sy'n cael eu dychwelyd atom yn unig. Ac eithrio nwyddau diffygiol a difrodedig, nid ydym yn gyfrifol am y postio yn ôl ac rydym yn pwysleisio unwaith eto eich bod yn defnyddio dull olrhain o bostio. Ni all Janglerins fod yn gyfrifol am golli eitemau sy’n cael eu dychwelyd.
- Ni all Janglerins dderbyn clustdlysau wedi’u dychwelyd oherwydd rhesymau hylendid, oni bai eu bod yn ddiffygiol.
- Os prynwyd yr eitem yn un o'n stocwyr, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol a byddant yn anfon yr ymholiad atom os oes angen.
POLISI PREIFATRWYDD
Mae'r polisi hwn (ynghyd â'n telerau ac amodau, ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt arno) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni, yn cael ei brosesu gennym ni. Darllenwch y polisi yn ofalus. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'n gwefan yn unig. Os byddwch chi’n gadael ein gwefan trwy ddolen, byddwch yn ddarostyngedig i bolisi'r darparwr gwefan hwnnw. Nid oes gennym ni unrhyw reolaeth dros eu polisi na thelerau defnyddio'r wefan, dylech wirio eu polisi cyn parhau i gyrchu eu gwefan. Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ei bod yn ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith.
CWCIS
Os ydych chi'n prynu o'r wefan hon, gallwch ddewis arbed eich enw, cyfeiriad e-bost, a manylion cyswllt eraill mewn cwcis. Mae'r rhain er hwylustod i chi fel nad oes rhaid i chi lenwi eich manylion eto pan fyddwch chi'n prynu yn y dyfodol.
Os byddwch chi’n ymweld â'n tudalen mewngofnodi, byddwn yn gosod cwci dros dro i benderfynu p’un a yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw'r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae'n cael ei daflu pan fyddwch chi'n cau eich porwr.
Pan fyddwch chi’n mewngofnodi, byddwn hefyd yn sefydlu sawl cwci i arbed eich gwybodaeth mewngofnodi a'ch dewisiadau arddangos ar y sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn para am ddau ddiwrnod ac mae'r opsiynau sgrin yn para am flwyddyn. Os dewiswch "Cofiwch Fi", bydd eich mewngofnodi'n parhau am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o'ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu dileu.
Darperir ein meddalwedd e-fasnach gan WooCommerce, is-gwmni i Automattic, y gellir dod o hyd i'w bolisi preifatrwydd yma:.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddeall sut mae ein hymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Ni fydd y data y gallwn ei weld yn ein cyfrif Google Analytics yn eich datgelu chi fel unigolyn. Dyma bolisi preifatrwydd Google.
CYNNWYS WEDI'I FEWNOSOD O WEFANNAU ERAILL
Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi'i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau). Mae cynnwys wedi'i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un modd â phe bai'r ymwelydd wedi ymweld â'r wefan arall.
Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, ymgorffori olrhain trydydd parti ychwanegol, a monitro'ch rhyngweithio â'r cynnwys sydd wedi'i fewnosod, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â'r cynnwys sydd wedi'i fewnosod os oes gennych chi gyfrif a'ch bod wedi mewngofnodi i'r wefan honno.
GYDA PHWY RYDYM NI’N RHANNU EICH DATA
Os ydych chi’n gofyn am ailosod cyfrinair, bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gynnwys yn yr e-bost ailosod Mae eich enw a'ch cyfeiriad i'w gweld ar unrhyw barseli a anfonwn atoch drwy'r Post Brenhinol.
Os ydych chi’n tanysgrifio i'n cylchlythyr, ein darparwr; bydd Mailchimp (is-gwmni Intuit) yn cadw'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost yn ddiogel, dyma bolisi preifatrwydd Mailchimp.
NEGESEUON MARCHNATA
Gallwch danysgrifio'n ddewisol i'n cylchlythyr trwy roi eich cyfeiriad e-bost yn y blwch ar waelod ein gwefan. Os na fyddwch yn tanysgrifio, ni fyddwn yn anfon e-byst marchnata atoch.
PA MOR HIR RYDYM NI’N CADW EICH DATA
Ar gyfer defnyddwyr sy'n cofrestru ar ein gwefan, rydym ni’n storio'r wybodaeth bersonol maen nhw’n ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefannau hefyd weld a golygu'r wybodaeth honno. Os oes gennych chi gyfrif cofrestredig ar ein gwefan, gallwch ofyn am gael ffeil wedi'i hallforio o'r data personol sydd gennym ni amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych chi wedi'i roi i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata sydd gennym ni amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata mae'n rhaid i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.