£325.00
MESURIADAU:
Calonnau Aur Melyn 9ct: 1.3cm x 1.3cm.
Weiren Bachyn Aur Melyn 9ct.
Mae cwymp y clustdlws tua 1.5cm. Sgroliau plastig.
Clustdlysau
Chwilio am glustdlysau bach gyda digon o gymeriad? Mae'r clustdlysau cylchoedd gleiniog hyfryd yma yn berffaith ar gyfer gwisgo bob dydd ac ar gael mewn dau faint. Dyma'r rhai lleiaf.
Stỳds 'Huggie' cylch. Hefyd ar gael mewn arian.
Calonnau gweadog ar wifrau clust gyda bachyn arian. Perffaith ar gyfer gwisgo bob dydd.
Styds gyda phatrwm print llygad y dydd. Daw'r llygad y dydd yn fyw gyda'r manylion ffoil aur 24ct.
Chwilio am glustdlysau bach gyda digon o gymeriad? Mae'r clustdlysau cylchoedd hyfryd yma yn berffaith i'w gwisgo bob dydd. Ar gael mewn dau faint.
Mae ein casgliad o Gennin Pedr hynod o hardd yn deyrnged i flodyn Cenedlaethol Cymru. Maint perffaith ar gyfer unrhyw achlysur neu wisg. Mae fy nghennin pedr wedi ymddangos ar Goron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Fersiwn bach o'r Stỳds Calonnau Blodau, sydd gyda phatrwm print blodau haul cain. Perffaith ar gyfer ychwanegu ychydig o steil i'ch gwisg bob dydd. Gwych ar gyfer llabed clust llai, a gellir eu gwisgo'n hawdd trwy'r dydd.
Mae'r clustdlysau cylchoedd dwbl yma wedi'u crefftio'n ofalus â llaw.
Tlws cain wedi'i wneud o ddisgiau arian mân o, pob un wedi'i drin yn ysgafn i greu effaith cromennog. Mae’r disgiau gyda’n patrwm print llygad y dydd ac mae’r manylion ffoil aur 24ct yn dod â nhw'n fyw.