Hyd Cadwyn ar gyfer Mwclis

Daw'r rhan fwyaf o fy mwclis ar gadwyn belcher addasadwy, sy'n golygu y gallwch chi eu cau ar yr 16" a 18".  

Os ydych chi angen hyd hirach neu fyrrach, rhowch wybod i mi yn y Nodiadau Archebu yn ystod talu.

Modrwyau

Rwy'n defnyddio maint modrwyau y DU ac yn cynnig maint safonol llawn J i S fel opsiynau yn y siop ar-lein.

Gallaf wneud eich modrwy i unrhyw faint, gan gynnwys hanner maint, rhowch wybod i mi yn y Nodiadau Archebu yn ystod talu.

Ddim yn siŵr o'ch maint? Y ffordd orau o fesur eich bys yn gywir yw galw i mewn i Siop iard i gael eich mesur yn broffesiynol. Rydym ni ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10 – 5 gyda Gemyddion profiadol yno bob dydd. Fel arall, gallwch ddefnyddio gemyddion sy'n lleol i chi. Bydd y rhan fwyaf yn hapus i'ch helpu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mesur y bys yr hoffech chi wisgo'r fodrwy arno gan y byddant i gyd yn wahanol, a bydd eich llaw chwith yn wahanol i'r llaw dde. Bydd eich bysedd yn newid maint ychydig drwy gydol y dydd; gall gwres a gweithgarwch corfforol gael effaith. Dylai'r fodrwy deimlo'n glyd pan fyddwch chi'n ei gwisgo fel na fydd yn cwympo i ffwrdd, ond yn dal i ffitio'n gyfforddus dros eich migwrn pan fyddwch chi'n ei thynnu i ffwrdd, rwy'n defnyddio'r dull "hawdd i roi ymlaen, wiglo i ffwrdd" wrth gynghori cwsmeriaid. 

Gallaf hefyd fesur modrwy sydd gennych chi eisoes sy'n eich ffitio os ydych chi'n hapus i ddod â hi i mewn neu ei phostio i wirio'r maint, eto gwnewch yn siŵr ei bod ar gyfer yr un bys â’r fodrwy yr hoffech chi ei phrynu.

Breichledau a Bangls

Mae fy mreichledau fel arfer yn addasadwy o 17cm i 18cm a 19cm, oni nodir yn wahanol.  

Os ydych chi angen hyd hirach neu fyrrach, rhowch wybod i mi yn y Nodiadau Archebu yn ystod talu.

Mae'r bangls fel arfer yn 69mm diamedr.

Os ydych chi angen hyd hirach neu fyrrach, rhowch wybod i mi yn y Nodiadau Archebu yn ystod talu.

Ddim yn siŵr o'ch maint? Y ffordd orau o fesur eich arddwrn yn gywir yw galw i mewn i Siop iard i gael eich mesur yn broffesiynol. Rydym ni ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10 – 5 gyda gemyddion profiadol yno bob dydd. Fel arall, gallwch ddefnyddio gemyddion sy'n lleol i chi. Bydd y rhan fwyaf yn hapus i'ch helpu.