Gofal a Chynnal a Chadw Cyffredinol

Mae fy ngemwaith yn cael ei wneud i safon uchel yn fy ngweithdy yng Nghymru, a dylen nhw gael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod. Er cymaint ag yr hoffem wisgo ein gemwaith drwy'r amser, weithiau mae'n well ei drin yn ofalus er mwyn osgoi unrhyw ddifrod diangen. Dyma fy arweiniad i'ch helpu i gyflawni hyn. 

Rwy'n cynnwys cerdyn gofal bach gyda chyfarwyddiadau ar sut i lanhau'ch gemwaith gyda phob darn sy'n gadael y gweithdy. Cadwch ef yn ddiogel fel y gallwch chi gyfeirio ato os oes angen.

Gemwaith Arian

Bydd arian yn naturiol yn afliwio gydag amser, ond mae'n hawdd glanhau a gofalu am emwaith arian. 

Dyma'r dull y byddwn i'n ei ddefnyddio i gael gwared ar yr afliwiad melyn-euraidd.  

PEIDIWCH â dilyn y dull hwn os ydy eich darn yn cynnwys carreg werthfawr gan y gall y dŵr berwedig achosi i'r garreg gracio.

  • Rhowch ddarn o ffoil alwminiwm wedi’i grebachu rywfaint mewn dysgl wydr, gyda'r ochr sgleiniog yn wynebu i fyny.
  • Rhowch eich gemwaith ar y ffoil, gan sicrhau bod y darn cyfan yn cyffwrdd â'r ffoil.
  • Taenwch haen o soda pobi dros y ffoil a'r gemwaith, yna eu trochi gyda dŵr berwedig.  
  • Gwnewch yn siŵr bod y darnau wedi'u trochi'n llawn.
  • Symudwch y gemwaith o gwmpas yn ysgafn gan ddefnyddio llwy blastig neu bren. 
  • Gadewch am funud neu ddwy nes bod y sïo wedi dod i ben.
  • Tynnwch y gemwaith allan gyda phlycwyr (tweezers) neu gefail blastig a byddwch yn ofalus o'r dŵr berwedig. Os oes gennych chi ddigon o ddyfnder yn y dysgl, gallwch ychwanegu dŵr oer, a defnyddio eich dwylo wedyn i godi'r darnau.
  • Golchwch y darnau yn drylwyr o dan ddŵr tap cynnes neu oer.
  • Defnyddiwch dywel meddal amsugnol i batio’n sych.
  • Defnyddiwch liain caboli meddal i loywi.

Rwy'n argymell eich bod chi’n cadw lliain caboli arian ger y man lle rydych chi'n tynnu eich gemwaith i ffwrdd, fel y gall ddod yn arferiad i'w godi a chaboli’n gyflym cyn gwisgo'r gemwaith. Mae llieiniau caboli arian ar gael yn eang mewn siopau gemydd fel Siop iard, siopau caledwedd ac archfarchnadoedd.

Gall cyswllt â chemegau, fel cynhyrchion croen a gwallt adweithio gydag arian ac achosi iddo bylu neu afliwio yn gyflymach, felly rydym ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio unrhyw gynnyrch cosmetig neu bersawr a gadael iddyn nhw sychu cyn gwisgo'ch gemwaith. 

Tynnwch eich gemwaith i ffwrdd os ydych chi'n nofio, boed hynny mewn pwll neu yn y môr, neu os ydych chi'n mwynhau ymlacio mewn twba poeth. Bydd y cemegau dan sylw yn adweithio gyda'r metelau ac yn achosi afliwio. Rydw i wedi gweld llawer o fodrwyau arian yn troi'n ddu ar ôl penwythnos i’r merched mewn twba poeth!

Byddwn hefyd yn eich annog i dynnu eich gemwaith i ffwrdd cyn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol egnïol fel garddio neu ymarfer corff, bydd hyn yn helpu i osgoi crafiadau neu ddifrod. 

Gemwaith Aur

Rydw i'n caru aur! Un o'i briodweddau hyfryd yw na fydd yn pylu fel arian, ond gall fynd yn fudr os yw'n un o’ch ffefrynnau ac yn cael ei wisgo'n rheolaidd. Unwaith eto, mae glanhau eich gemwaith aur yn hawdd. Byddwn i’n argymell dŵr cynnes a glanedydd ysgafn, a defnyddio brwsh dannedd meddal os oes angen i fynd i mewn i'r holl gilfachau a thyllau. Golchwch a sychwch yn drylwyr gyda lliain meddal yna ei loywi eto gyda lliain caboli aur. 

Rwy'n argymell eich bod chi’n cadw lliain caboli aur ger y man lle rydych chi'n tynnu eich gemwaith i ffwrdd, fel y gall ddod yn arferiad i'w godi a chaboli’n gyflym cyn gwisgo'r gemwaith.

Storio eich Gemwaith

Y lle gorau i gadw eich gemwaith pan nad ydych chi'n eu gwisgo yw yn y bocs gwreiddiol. Bydd hyn yn eu hatal rhag clymu neu grafu yn erbyn ei gilydd.

Cadwch eich gemwaith i ffwrdd oddi wrth siliau ffenestri neu ystafelloedd ymolchi oherwydd gall lleithder ac amodau poeth achosi gemwaith i bylu yn gyflym.

Mae rhai o'm tlysau yn dod ar Gadwyn Neidr. Dylech fod yn ofalus wrth storio'r math hwn o gadwyn gan y gallant fod yn dueddol o grychu a all arwain at dorri. Fel arfer, ni ellir atgyweirio'r math hwn o gadwyn yn hawdd, ac efallai y bydd yn rhaid i chi brynu cadwyn newydd. Byddwn yn argymell eich bod chi'n storio'r rhain drwy eu hongian neu wedi'u lapio’n ofalus mewn torch (fel yr enw!). Peidiwch byth â cheisio eu plygu i mewn i'r blwch.

Cynnal a Chadw Gemwaith Proffesiynol

Os ydych chi'n teimlo bod angen cyffyrddiad proffesiynol ar gynnal a chadw eich gemwaith, fel glanhau dwfn mewn glanhawr uwchsonig masnachol, neu Blatio Rhodiwm ar gyfer eich gemwaith Aur Gwyn, cysylltwch â ni i drafod.

Os nad ydych chi’n siŵr am unrhyw ran o'r cyngor sydd wedi’i restru uchod, cysylltwch â mi a byddaf yn gallu eich cynghori a'ch cyfarwyddo ar y camau cywir i'w cymryd.